Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 – Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Tachwedd 2023
Amser:
14.02 -
15.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13555
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS Buffy Williams AS Jayne Bryant AS |
Tystion: |
Ffion Fairclough, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru Kasia Tomsa, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru Elin Hargrave, Senedd Education and Youth Engagement Bethan Roberts, Senedd Education and Youth Engagement |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.
3 P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.
4 P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.
5 Deisebau newydd
5.1 P-06-1361 Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn a ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r cod ymarfer er mwyn diogelu staff asiantaeth yn well.
Yn ysgrifenedig i'r Gweinidog cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cau'r ddeiseb, yn diolch i'r deisebydd a hefyd yn cyfarwyddo'r deisebydd i gysylltu â'r Ombwdsmon, system gwynion y GIG a'u Haelodau lleol o’r Senedd i godi'r mater hwn.
5.2 P-06-1371 Dylid ailagor y safle rheilffordd yn Nantyderi, Goytre Fawr, i'n cynnwys ni ym Metro De Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud o safbwynt Llywodraeth y DU. Wrth ysgrifennu at Lywodraeth y DU, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
5.3 P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb wrth ystyried y sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â’r deisebau trafnidiaeth eraill. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys y ddeiseb hon fel rhan o gynllun ar gyfer trafodaeth bwrdd crwn ehangach gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau lleol.
5.4 P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn rhagor o gwestiynau a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys pryd y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar ddatblygiadau a ganiateir yn cael ei gyhoeddi.
5.5 P-06-1376 Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i daliadau peilot incwm sylfaenol i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a daeth i'r casgliad bod Aelodau eisoes wedi mynegi eu barn yn glir ar fater Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn eu hadroddiad Cynllun Peilot UBI i Gymru. Cytunodd y Pwyllgor felly na ellid cymryd unrhyw gamau eraill a chytunodd i gau’r ddeiseb.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
6.1 P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar blwm mewn ffrwydron o dan broses Reach y DU. Cytunodd i aros am gasgliad yr ymgynghoriad pellach ar y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol drafft cyn cymryd camau pellach.
6.2 P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog er mwyn cael eglurhad ynghylch y datganiad am wirio statws gofalwyr di-dâl.
6.3 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Powys i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am arwyddion cyfeiriadol at y safle. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.
Wrth gau'r ddeiseb cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ysgrifennu yn ôl at Gyngor Sir Powys i fynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch yr ymateb a gafwyd.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod y dystiolaeth - P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun / P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd / P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai'n cynnal trafodaeth bwrdd crwn undydd yn y flwyddyn newydd gyda rhanddeiliaid perthnasol ynghylch gwasanaethau bws.